Fe ddaeth cofnod cyffrous i mewn ar ddechrau’r mis hwn gan Sorcha Lewis am Fwyalchen y Mynydd, wedi’i gofnodi ar eu fferm ar ôl gwasgaru tom ar eu tiroedd pori. Mae Mwyalchen y Mynydd yn bwydo ar infertebratau’r pridd, sef y rheswm paham yr oeddem yn annog gwasgaru tom yn ystod Prosiect Loteri Treftadaeth Elan Links, a phaham y plannwyd coed llawn aeron gennym ar ddwy fferm. Mae Mwyalchod y Mynydd yn pasio trwy Gwm Elan yn yr hydref gan fwydo ar aeron y criafol a’r drain gwynion hyn, cyn anelu am Dde Ewrop am y gaeaf. Fe ddaeth i’n sylw yn ddiweddar fod o leiaf un pâr o bosib wedi bod yn nythu yng Nghwm Elan pob blwyddyn ers o leiaf 2021.

Mae cofnodion am y gylfinirod wedi bod yn dod o wahanol gyfeiriadau yng Nghwm Elan, diolch i wirfoddolwyr, tenantiaid, staff a Tony Cross. Fe wnaeth Iona a Tony godi ffens o gwmpas dwy nyth ar ddechrau mis Mai, gyda Tony yn ffensio dwy nyth arall yn fwy diweddar. Mae gylfinirod Cwm Elan wedi bod yn ymddwyn yn rhyfedd eleni, efallai oherwydd y gwanwyn oer hir, ond fe wnaeth y tân cymhlethu’r sefyllfa hefyd.
Image: Tony Cross

Mae pedwar pâr sy’n cenhedlu wedi ymddangos mewn man arall yn y cwm, un pâr yn dewis mawndir sydd newydd ei adfer – ac mae hyn yn gyffrous. Bydd y tân enfawr a wnaeth losgi hanner y cwm wedi cael effaith ac wedi dadleoli rhai o’r adar.
Image: Tony Cross

Fe allwn hefyd adrodd fod wyau cyntaf y gylfinir wedi deor ar benwythnos gŵyl y banc, a gwelwyd pedwar cyw gan Tony Cross.
Image: Tony Cross

Yn y cyfamser, fe ddychwelodd gwybedogion brith i’r cwm yng nghanol mis Ebrill, gan nythu yn y coetir derw o gwmpas y cronfeydd. Fe roddodd ein gwirfoddolwyr y blychau nythu yn un o’r porfeydd coediog y gaeaf hwn, gydag un gwirfoddolwr lleol yn eu monitro. Mae’r blychau nythu yn darparu lle diogel i’r wyau ac i’r cywion, gan roi cychwyn da iddynt yn y ras i oroesi. ‘Rydym yn bwriadu rhoi mwy o flychau nythu i fyny yng nghoedwig Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn yr hydref.

