Mae Elan Links mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys yn cynnig cyflwyniad chwe diwrnod ar archeoleg yr ucheldir i wirfoddolwyr fel paratoad ar gyfer y cloddiadau cymunedol a bwriedir eu cynnal yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Fe fydd yr hyfforddiant rhad ac am ddim yn digwydd yng Nghanolfan Ymwelwyr Dŵr Cymru o 10yb hyd 4yp ac yn cynnwys cinio a lluniaeth.
7/6/23 – Cyflwyniad: Beth yw archeolegwr? Sut mae archeolegwyr yn gwybod ble i gloddio? A sut ydych yn cydosod cloddiad archeolegol? Offer llaw.
8/6/23 – sut mae safleoedd archeolegol yn cael eu ffurfio a sut i adnabod a chloddio’r stratigraffeg yn y drefn gywir.
14/6/23 – Cyd-destun a chofnodi: pa bethau sy’n cael eu cofnodi a pham mae’n bwysig i wneud hynny?
15/6/23 – Gwneud cofnod: cynllunio, tynnu llun a ffotograffio yn yr oes ddigidol.
19/6/23 – Darganfyddiadau ac arteffactau: adferiad, symud a chofnodi gyda phwysigrwydd cyd-destun.
20/6/23 – Archeoleg yng Nghwm Elan a manylion safle-penodol: anheddau canoloesol anghyfannedd, llwyfannau tai ac archeoleg yr ucheldir.
Mae llefydd yn brin, am ffurflen gais a rhagor o fanylion cysylltwch â Gary Ball, Swyddog Archeoleg a Threftadaeth ar gary-ball@elanvalley.org.uk