
RHAN 1 o 3
gan Tudor Davies
Dros y blynyddoedd, mae pobl lleol wedi derbyn yr her i gerdded o gwmpas cerrig y ffin, taith gerdded 44 milltir ar draws weundiroedd anghysbell, corsiog a gwellt y gweunydd trwchus gyda phocedi dwfn a sypwellt uchel. Heb lwybrau troed sefydledig, ychydig iawn o lwybrau defaid heb dderbyniad ffôn, nid yw hwn ar gyfer y rhai gwan galon!
Mae nodau terfyn Ystâd Elan yn bennaf yn cynnwys pyst concrit o ddechrau’r 20fed ganrif wedi’u stampio gyda’r llythyrau BC (Birmingham Corporation). Fe’u codwyd oddeutu 1913 yn dilyn Deddf Dŵr 1892, mae’r nodau terfyn hyn yn dilyn y wahanfa ddŵr wreiddiol a ffiniau talgylch yr ystâd. Mae dwsinau o’r pyst hyn yn dal i sefyll ar draws y gweundiroedd anghysbell ac anhygyrch sy’n amgylchynu cronfeydd dŵr dyffrynnoedd Elan a Chlaerwen.
Ym 1970, fe wnaeth dau o denantiaid fferm ar yr ystâd, y diweddar Ambrose Davies a’r diweddar Bonnie Rees derbyn yr her a cherdded y ffin gan wisgo eu dillad bugeilio, esgidiau glaw ar eu traed, a’i gwblhau mewn 15 awr a 39 munud. Roedd hyn yn gamp wych yn y dyddiau cyn GPS, ffonau clyfar ac offer cerdded technegol ac ategolion, fel sydd gennym heddiw.


Tynnwyd y llun hwn allan o bapur newydd, wedi’i roi yn garedig gan Tudor. Mae’n dangos Mrs Morgan (canol) yn edmygu’r cwpanau a roddwyd i Mr Bonnie Rees, Mr Ambrose Davies, Mrs J Price (chwith), Mr L W Mytton a Mr J Jones.
Eto, yn yr 1980au, cerddwyd y daith eto mewn un diwrnod gan bobl lleol, Colin Wozencraft, David Thomas, Hugh Owen a’r diweddar Dai Owen, yr holl yn ddynion y bryniau profiadol yn gyfarwydd â’r ardal ac yn ei adnabod fel cefn eu dwylo.
Fe’i gerddwyd eto ym 1990 gan Tudor Davies a’r diweddar Carl Edwards gan ei gwblhau mewn diwrnod gyda chymorth teulu a ffrindiau ar wahanol reolfeydd ar hyd y daith.
Fe fydd Rhan 2 y mis nesaf yn dilyn eraill a gwblhaodd daith gerdded ffin y Wahanfa Ddŵr.
