Yn 2016, roedd grŵp bach o saith eisiau ymgymryd â her gerdded, felly aethant ati i wneud Taith Gerdded Cefndeuddwr Ystâd Elan.
Daeth y ffrindiau o Henffordd, Aberhonddu, Tenbury, Trefyclo, Ystumtuen a Chwm Elan, pob un yn gerddwyr profiadol. Arweinydd y Daith Gerdded Tudor Davies gydag Andrew Leonard (cyn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cwm Elan), Alan Whitby, Chris Franks, Ian Powell, Yvonne Gulley a Sam Price.
Er mwyn gwneud y daith gerdded yn bleserus ac yn bosibl, y bwriad oedd cerdded unwaith y mis, dydd Sadwrn olaf y mis, a chwblhau pum cymal a gyda rhai o’r cymalau fe ymunodd ychydig o ffrindiau a chefnogwyr â nhw.
Daeth Mai 2016, ac aeth y grŵp ar eu rhan gyntaf, o Bentref Elan i Argae Claerwen. Gan gychwyn o’r bont Grog ym Mhentref Elan, dringasant i Waun Sarn, heibio Llyn y Ferlen, cyrraedd y pwynt trig yng Ngorllwyn, Bwlch y Ddau Faen ac ymlaen i Ddrygarn Fawr (645m). Pwynt nesaf y criw oedd Cerrig Llwyd y Rhestr, a heibio Llyn Carw anghysbell, i lawr at Argae Claerwen, dyma fyddai diwedd Cam Un. Roedd y tywydd yn dda a’r golygfeydd yn ymestyn ymhell.

Mehefin 2016 oedd y mis nesaf ar gyfer yr ail gymal: Argae Claerwen i Byllau Teifi, yng nghwmni Andrew ac Elinor Pennington a Kev & Bev. Gan ddechrau o Argae Claerwen, roedd rhaid i’r grŵp ail-ddilyn eu llwybr o Ddiwrnod 1 yn ôl cyn belled â Cherrig Llwyd y Rhestr, lle dilynon nhw’r cerrig ffin, draw i Fryn Garw, a ffens goedwigaeth Foel Prysgau. Roedd y garnedd yng Nghrug Gynon yn lle da ar gyfer egwyl de, heb fod ymhell o darddle Afon Tywi. Roedd y tywydd yn dda hyd at y pwynt hwn, ond roedd glaw trwm y prynhawn yn golygu bod dillad gwrth-ddŵr yn hanfodol. Llyn Gynon oedd y llyn mwyaf yr oedd y grŵp wedi’i basio ar yr adeg hon. Daeth Creigiau Coed i’r golwg a’r ffordd darmac yn Llyn Egnant, lle’r oedd cerddwyr gwlyb iawn yn falch iawn o gwrdd â’r bws mini, a aeth â’r grŵp yn ôl i Argae Claerwen. Roedd y cymal hwn yn anodd ac yn arw iawn yn mynd ar hyd ardal fynyddig sy’n aml yn cael ei galw’n “yr Anialwch Gwyrdd”.

Gorffennaf 2016 oedd y drydedd ran: Llynnoedd Teifi hyd at Ffin Dyfed Powys. Aeth y bws mini â’r grŵp i Lynnoedd Teifi ac ymunodd David James â nhw. Roedd y tywydd ychydig yn niwlog i ddechrau’r diwrnod ond fe giliodd ac fe agorodd yn ddiwrnod braf. Pasiodd y grŵp uwchben Bothy Claerddu a llynnoedd trawiadol Llyn Fryrddon Fach a Llyn Fryrddon Fawr, gellid gweld golygfa Domen Milwyn (555m) ymhell ac anelodd y grŵp ato, gan dynnu lluniau yn edrych i lawr at bentref Cwmystwyth ac yn ôl am Ddrygarn Fawr.
Aethpwyd heibio Byrlymau Elan, nid nepell o darddle’r Elan, ac o’r fan hon gallech weld ffin Dyfed/Powys ac ymhellach dros y garnedd yng Nghistfaen.
Gan ddilyn y cerrig ffin, cyrhaeddodd y grŵp Esgair Elan, yna Bryn Glas, a’r ceir oedd yn aros ar ffin Dyfed/Powys. Roedd rhan hon y daith gerdded yn anghysbell ac yn anodd ei cherdded gyda llawer o dir garw, rhostir grug a thir corsiog.
Ym mis Awst 2016, roedd y bedwaredd ran o ffin Dyfed/Powys i Foel Geufron. Gan ddechrau o ffin Dyfed/Powys, dringodd y grŵp i gerrig Cistfaen, ac oddi yno gallai’r grŵp edrych yn ôl a gweld pa mor bell yr oeddent wedi dod ar eu hantur, gyda’r tywydd unwaith eto’n garedig, gan gynnig golygfeydd godidog.
Ymwelwyd â Phyllau Mawn gyda golygfeydd yn edrych dros Langurig. Pasiwyd Blaen-y-Clawdd du, gyda’r olygfa i lawr i Gwm Elan yn dod i’r golwg. Gwar y Tŷ (534m) ac ymlaen i Gefn Bach, golygfeydd o Elan ar un ochr a Dyffryn Gwy ar yr ochr arall. Ar ran hon y daith gerdded, gwelwyd llawer o’r cerrig ffin yn agos ac ymunodd ffermwr lleol, Robert Hughes, â’r grŵp ac aethant ati i gyd i ailosod carreg ffin a oedd wedi cwympo. Gobeithio y bydd y garreg hon yn sefyll yn gadarn am 100 mlynedd arall. Daeth rhan hon y daith gerdded i ben ar ochr y ffordd ym Moel Geufron lle cafodd y grŵp luniaeth haeddiannol i nodi diwedd y dydd. Roedd rhan hon yr her yn dir bryniog garw unwaith eto, ond roedd y golygfeydd yn gwneud iawn am hynny.

Medi 2016, cymal pump a’r olaf oedd Moel Geufron i’r llinell derfyn, Pentref Elan. Gyda rhan waethaf ac anoddaf yr her wedi’i chwblhau, roedd hwyliau’r grŵp yn dda ar eu diwrnod olaf. Gan ddilyn cerrig ffin Blaen Fign, ac ymlaen i Grugyn Ci a golygfeydd o’r dref Rhaeadr a Dyffryn Gwy ac i’r gogledd i Gadair Idris, hefyd o’r fan honno gallem weld Drygarn Fawr a Domen Milwyn.
Aeth y darn olaf â’r grŵp trwy Moelfryn Bach a’r Garnedd yn Y Foel ac yn olaf i lawr i Welyau Hidlo Dŵr Hafren Trent a Phentref Elan.
Llwyddodd y grŵp o saith i gwblhau her y dirwedd garw ac anghysbell hon mewn tywydd da ar y cyfan. Wrth i chi gerdded trwy rai o’r ardaloedd anghysbell hyn mae’n gwneud i chi feddwl pa mor fach ydych chi o’i gymharu â’r dirwedd o’ch cwmpas.
Cyflwynwyd medal a thystysgrif i’r grŵp gan Charlotte Harley, yr Asiant Tir Cynorthwyol ar y pryd (bellach yr Asiant Tir a Rheolwr Ystadau) yng Ngwesty Cwm Elan, i ddathlu eu llwyddiant o gerdded Ffin Cefn Deuddwr Ystâd Elan.
Tudor Davies
Arweinydd Taith Gerdded a Thywysydd Lleol

