Brigiadau Creigiog a Choed Prin – Gall botaneg fod yn gyffrous ac yn beryglus

O ystyried ei faint, ei natur anghysbell a’i ddynodiadau statudol, nid yw’n syndod o gwbl bod Cwm Elan yn denu sylw naturiaethwyr a gwyddonwyr yn barhaus, gan ei wneud yn lle gwreiddiol i weithio wrth i ni gynorthwyo gyda chaniatâd neu ymweliadau i gasglu gwybodaeth newydd ar borfeydd coediog neu i ganfod rhywogaethau prin. Ni fu eleni na’r llynedd yn ddim gwahanol.
Cerddinen Seisnig unig, Sorbus anglica ar Graig Cnwch, Medi 2026. Ffotograff: Dr Tim Rich.
Mae’r genws Sorbus yn cynnwys cerddin gwynion, cerddin a chriafol y mae dros 70 rhywogaeth a hybrid ohonynt yn y DU ac Iwerddon. Mae’r cerddin Seisnig Sorbus anglica, yn llwyn neu’n goeden fach ar frigiadau creigiog mewndirol, clogwyni môr, coedwigoedd creigiog agored, rhostir heb bori a phrysgwydd sy’n tyfu’n bennaf ar galchfaen ond weithiau ar y creigiau mwy asidig. Dim ond tua 1,000 o goed S. anglica sydd ym Mhrydain ac Iwerddon ac ym 1979 darganfuwyd y rhywogaeth yng Nghwm Elan gan yr ecolegwr lleol Ray Woods, yn abseilio i lawr clogwyni ac yn dod o hyd i ddwy lwyn ar Graig Cnwch a 3 choeden fawr ar wyneb craig yng Nghraig y Foel.
Fe wnaeth Dr Tim Rich, arbenigwr y DU ar Gerddin, fentro’i fywyd i chwilio ar hyd y clogwyni yn 2025 ond ni ddaeth o hyd i unrhyw beth (ar wahân i goeden almon Prunus dulcis* yn tyfu ar hyd Llwybr Cwm Elan) ac felly gofynnodd am ein help. Mae nifer o staff bellach yn fedrus wrth hedfan dronau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer arolygon mawn ac yn gynharach y mis hwn hedfanodd Iona Blockley ddrôn dros Graig y Foel. Ar ôl rhywfaint o gyffro cychwynnol pan welodd y drôn goed mawr gydag aeron coch llachar mewn ceunentydd serth; llwyddodd Tim i ddringo fyny’r clogwyn gydag ysbienddrych yn agos at y lleoliad, ond darganfu mai dim ond sbesimenau da o Griafolen Sorbus aucuparia oeddynt.
Yn ffodus, daeth Tim o hyd i gerddinen Seisnig fach ger copa Craig Cnwch y diwrnod hwnnw, sy’n golygu nad yw’r rhywogaeth hon wedi diflannu o Gwm Elan eto. Dim ond saith aeronen oedd arni ac anogodd Tim ni i gasglu rhai i’w tyfu ymlaen, rhag ofn i ni golli’r gerddinen brin yn llwyr.
Nid oedd Olivia Boston-Smith a minnau yn edrych ymlaen at ddringfa serth i fyny ac roeddem yn ddiolchgar o glywed y newyddion bod Sorcha Lewis wedi casglu hadau o goed Cnwch flynyddoedd ynghynt a’u tyfu ar ei fferm yn Nhroed Rhiw Draen. Diolch i Sorcha, roeddem yn gallu casglu aeron oddi ar goeden hawdd ei chyrraedd, eu potio a byddwn yn anelu at blannu’r coed mewn lleoliadau addas yn y dyfodol.
Mwy am goed hynod y mis nesaf.
Fiona Gomersall
*Gallai’r almon fod yn fricyll mewn gwirionedd, ond yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw blodau neu ffrwyth i gadarnhau pa un o’r rhain ydyw. Byddai’r naill goeden neu’r llall yn ddarganfyddiad eithaf rhyfedd i Gwm Elan – ac mae Rob Andrew, ceidwad DCWW wedi ein sicrhau na phlannwyd y naill na’r llall! Rydym yn dyfalu felly bod y garreg wedi cael ei thaflu o focs bwyd rhywun, 15 mlynedd neu fwy yn ôl.
