Nodiadau gan Ecolegydd – Awst 2026

Nodiadau gan Ecolegydd – Awst 2026

01st Awst 2026

Hanes Gylfinir yr Elan eleni

Bu 2026 yn wahanol i’r blynyddoedd cynt i’r gylfinir yng Nghwm Elan, ac mae wedi bod yn heriol i ganfod beth yn union sydd wedi bod yn digwydd yn nhermau cenhedlu.  Mae’r cyfuniad o wanwyn hir ac oer, a’r tân gwyllt enfawr yn bendant wedi chwarae rhan yn ymddygiad y gylfinirod a’u llwyddiant i genhedlu yn y pen draw.

Mae ymwybyddiaeth o gyflwr y rhywogaeth eiconig hon wedi cynyddu ac rydym yn ffodus i gael criw bach ond cydwybodol o wirfoddolwyr yn ein cynorthwyo i leoli y gylfinirod ac i sylwi ar eu gweithgareddau.  Yn ogystal â hyn, mae ein tenantiaid wedi danfon cofnodion ac mae staff y mawndiroedd allan yn monitro yn y bryniau hefyd wedi cofnodi gweithgarwch.  Treuliodd Tony Cross, ein contractwr mwy o amser yn y cwm eleni yn gwneud arolygon ar y gylfinirod ynghyd ac adar eraill.

Yn y gwanwyn fe ddaeth haid o 10 gylfinir i gors gwellt y gweunydd yng Nghefn Gwair ger gronfa ddŵr Craig Goch – y nifer uchaf i ni’u cofnodi mewn un lleoliad.  Ar ôl hynny, fe wnaethant wasgaru ac fe’u gwelwyd mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas Craig Goch, yn arddangos eu hunain, rhybuddio a pharu.  Yn y cyfamser gwelwyd rhagor o gylfinirod mewn mannau eraill yn y cwm, rhai mewn lleoliadau ‘newydd’ lle adferwyd y mandiroedd.

Yna, tuag at ddiwedd mis Ebrill fe ddechreuodd tân gan ledaenu, a llosgi amrwymau o wellt y gweunydd a ffridd. Llosgwyd oddeutu 40% o’r ystâd, gan ddiffodd ar ôl wythnos o ddinistr.  Rydym yn gwybod i adar bach golli eu nythod, llosgwyd madfallod, brogaod a phryfed, ond nid ydym yn gwybod pa effaith a gafodd ar y gylfinir.  Cafwyd newyddion am gylfinirod yn Claerddu ac fe ymddengys fod rhai ohonynt wedi symud dros dro tua’r gorllewin gan na welwyd mohonynt yno ar ôl hynny.

Fe ddaeth y tân yn agos at Rhosmeheryn a Hirnant ond diolch byth fe lwyddodd yr ardal hon osgoi’r ffwrnais, ac ar yr 2il o Fai fe ddarganfuwyd y nyth gyntaf a’r wy cyntaf yma, a’i ddilyn gan ail nyth.  Fe wnaeth Tony, gyda chymorth Iona Blockley, ffensio’r ddwy nyth rhag ysglyfaethwyr ac roedd y ddwy yn llwyddiannus gyda 6 allan o’r 8 wy yn deor gan gynhyrchu 6 chyw blewog.

Ar yr 8fed o Fai, fe welodd Iona pâr mewn lleoliad lle roeddwn wedi adfer mawn oedd wedi’i ddifrodi, a lle na welwyd gylfinirod am nifer o flynyddoedd.  Fe aeth y pâr yma ymlaen i genhedlu, hynny’n gyffrous, ac efallai eu bod wedi cenhedlu dwy waith yn y lleoliad yma.

Lleoliad newydd arall i ni oedd Comin Cwmdauddwr gyda phâr o gylfinirod yn cenhedlu yn agos i’r ffordd ac yn cynhyrchu 3 cyw er gwaethaf aflonyddwch gan ymwelwyr a thraffig y ffordd.

Tair wythnos yn ddiweddarach fe ddarganfuwyd dwy nyth arall yn llawn wyau i’r gorllewin o Graig Goch, a chredwn bod y tân yn rheswm dros yr oediad hyn.  Ffensiwyd y ddwy nyth hyn hefyd, gan helpu arbed un oddi wrth ysglyfaethwyr y llawr, ond fe ddyfalodd Tony bod yr ail nyth wedi’i ddinistrio gan frain.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael adroddiad am gylfinirod yn cenhedlu i’r dwyrain o Graig Goch ac eleni fe welodd gwirfoddolwr oedolyn a chyw yno ar y 9fed o Fehefin.

Fe gawsom adroddiad am oedolyn a chyw ar denantiaeth arall ar y 30ain o Fehefin a dyma’r dyddiad olaf y gwelwyd gylfinirod yn Elan.  Yn gyfan gwbl fe ymddengys fod 14 o wyau wedi deor yn llwyddiannus, ond nid ydym yn gwybod sawl cyw a fagodd plu.  Fe wnaeth Tony Cross gylch rhwymo 10 allan o’r 12 cyw ac felly gobeithir gallu adnabod yr adar hyn fel oedolion os fyddant yn dychwelyd i Elan yn y dyfodol