
Pan fydd tenantiaid ffermio newydd Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn cymryd yr awenau yn Fferm Tynllidiart ym mis Medi, bydd yn gweld diwedd ar gysylltiad sydd wedi bod gen i a fy nheulu â’r fferm, sydd wedi para ers bron i 100 mlynedd.

Dechreuodd y cysylltiad gyntaf pan gafodd fy nhaid, David Jones (“Dai Tynllidiart”), denantiaeth y fferm gan Adran Ddŵr Corfforaeth Birmingham. Daeth ei denantiaeth i ben ym 1969 ac wedi hynny bu fy nhad yn bugeilio Tynllidiart. Ar ôl ei farwolaeth, cymerais yr awenau ar y dyletswyddau bugeilio ym 1991.

Yn anarferol i Ystâd Elan, mae praidd Tynllidiart yn cynnwys defaid Mynydd Cymreig penfrith cadarn yn hytrach na’r defaid Mynydd Cymreig pen wyn mwy cyffredin.
Mae’r daliad wedi’i reoli’n draddodiadol iawn er, yn fwy diweddar, mae llawer mwy o bwyslais ar integreiddio ffermio a chadwraeth natur, a amlygir trwy gyflwyno gwartheg a merlod, ymhlith mentrau eraill.
Mae gen i lawer o atgofion hapus o weithio ar y fferm gyda chydweithwyr, cymdogion a fy ngwraig, Annette. Byddaf yn colli cyfeillgarwch y cynulliadau, yn enwedig amser bwyd, pan fyddai sawl gwydraid o seidr yn cael eu rhannu yn ogystal â llawer o atgofion a “chlecs” yn cael eu cyfnewid. Yr unig beth na fyddaf yn ei golli yw’r gwybed!

Am y 25 mlynedd diwethaf mae’r ffermdy wedi cael ei ddefnyddio fel llety gwyliau hunanarlwyo ac, unwaith eto, rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau hirdymor gyda phobl sydd wedi dewis treulio gwyliau yn y tŷ.
Er y bydd yn ddiwrnod trist i mi pan ddaw fy nghysylltiad â’r fferm i ben, rwy’n dymuno’r gorau i’r tenantiaid newydd, teulu ifanc, ac yn gobeithio y byddant yn cael pob llwyddiant a hapusrwydd yn y lle arbennig iawn hwn.
Tudor Davies
Awst 2026
