Golwg ar Wybren y Nos – mis Rhagfyr 2026

Golwg ar Wybren y Nos – mis Rhagfyr 2026

27th Tachwedd 2026

Croeso i ddiweddariad y mis hwn i ddarganfod beth sydd yn wybren y nos ym mis Rhagfyr.

Ym Mharc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan, mae tywyllwch seryddol yn para am 11 awr a 48 munud o 18:08 ar ddechrau’r mis, a 12 awr ac 1 munud o 18:16 ar y diwedd.  Mae’r ffenest yma o ‘dywyllwch seryddol’ yn rhoi’r amodau syllu gorau i weld ac i ddal delweddau o alaethau pell, clystyrau sêr a nifylau.

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 9fed o Ragfyr a’r Lleuad Lawn ar y 24ain o Ragfyr.

 Y Lleuad Lawn, ‘Oer’ yw’r Uwch-Leuad agosa a mwyaf disglair o’r flwyddyn, yn ymddangos yn 14% yn fwy a 30% yn fwy disglair na’r Lleuad Fach.  Mae’r Lleuad Lawn wedi’i lleoli gyferbyn a safle’r Haul o’n safbwynt ni, sy’n golygu y mis hwn fe fydd yn cyrraedd ei safle uchaf eleni, ac yn aros uwchben y gorwel am hirach.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Mae golwg ar yr awyr gyfan o’r cytserau o 22:00 ar y 1af o Ragfyr o in-the-sky.org – map argraffadwy yw hwn – cliciwch neu dapiwch ar y ddelwedd er mwyn lawrlwytho’r PDF.

Y Planedau ym mis Rhagfyr

Fe gellir gweld y Blaned Mercher am bythefnos cyntaf y mis wrth iddi godi yn y dwyrain cyn iddi wawrio am 06:35 ar ddechrau’r mis, ond mae’n colli uchder yn gyflym, ac yn cael ei cholli yn llacharedd y bore o ganol y mis ymlaen.

Mae’r Blaned Gwener yn codi’n gyson oddeutu 04:00 trwy gydol mis Rhagfyr ac ym ymddangos fel seren ddisglair iawn yn y bore.

Mae’r Blaned Mawrth yn codi am 22:40 ar ddechrau’r mis ac am 21:30 ar y diwedd.

Mae’r Blaned Iau yn codi oddeutu 22:00 ar ddechrau’r mis ac am 22:30 ar y diwedd.

Fe fydd y Blaned Sadwrn wedi’i lleoli’n dda yng nghytser y Pysgod wrth iddi nosi.

Fe fydd y Blaned Wranws yn aros yng nghytser y Tarw a gellir ei gweld trwy ysbienddrych.  Chwiliwch am y Clwstwr Sêr Pleiades a’i osod ar ben uchaf y maes gweld.  Fe fydd y Blaned Wranws yn ymddangos ger yr ymyl gwaelod fel seren glas-gwyrdd pell, cyson.

Ar y 26ain a’r 27ain o Ragfyr, fe fydd tri gwrthrych agos o gysawd yr Haul wrth i’r Lleuad amgrwm orwedd ger y blaned Mawrth a’r Blaned Iau.  Edrychwch tua wybren y de-ddwyrain oddeutu canol nos.

Cawod Meteor y Geminid

Fe fydd Cawod Meteor y Geminid yn weithredol o’r 4ydd – 20fed o Ragfyr, ar ei hanterth ar noson y 13eg o Ragfyr tan oriau mân y bore ar y 14eg o Ragfyr.

Wrth i’r Ddaear fynd trwy falurion asteroid 3200 Phaethon, fe fydd y sioe cyn-Nadoligaidd yma yn cynnwys sêr gwib lliwgar, llachar ac ambell i belen dân.  Dyma’r ail gawod meteor cynhyrchiol y flwyddyn hon, gan gynnwys hyd at 120 meteor yr awr.  Fe fydd y Lleuad yn machlud oddeutu 19:30, gan roi noson dywyll er mwyn gweld y sioe ar ei gorau.

Cydnabyddiaeth am y ddelwedd:  Roy S.

Hyfrydwch yr Wybren Bell

Darganfyddwch dargedau gorau’r wybren bell y mis hwn ar gyfer telegsopiau, ysbienddrych a’r llygaid noeth.

Yn ychwanegol, edrychwch ar ein herthygl nodwedd, lle byddwn yn dewis y trysor wybren bell gorau i’w dal gyda’r telesgop clyfar.

Clwstwr Sêr Pleiades

Er bod y clwstwr sêr amlwg hwn wedi bod yn nodwedd yn wybren y nos trwy gydol yr hydref, mae’r gwrthrych llygaid noeth hwn wedi’i leoli’n dda yn wybren mis Rhagfyr wrth iddi nosi.  Mae hefyd yn hawdd i’w weld ag ysbienddrych.

Delwedd:  gan NASA, ESA, AUR/Caltech, Arsyllfa Palomar (Parth Cyhoeddus)

Wedi’i leoli uwchben ac i’r gorllewin o gytser Orion, mae’r clwstwr o sêr llachar hwn, wedi’i leoli 444 o flynyddoedd golau i ffwrdd, yn cynnwys 1,000 o sêr ifanc a phoeth – gellir gweld chwech neu saith ohonynt gyda’r llygaid noeth.

Mae wedi’i leoli uwchben seroliaeth y saeth yng nghytser y Tarw.

Codwch eich ysbienddrych i’ch llygaid er mwyn dod o hyd i gasgliad disglair o sêr, efallai y byddant yn dangos awgrym bach o niwl.  Ymhlith y sêr mwyaf llachar mae cadwyn o sêr troellog. 

Adnabyddir y clwstwr hwn ledled y byd, ac fe’i adwaenir fel Subaru (sy’n golygu ‘uno’) yn Siapan ac yn Matariki yn Seland Newydd.  Mae Matariki yn fyr am Ngã Mata o te Ariki Tãwhirimãea (“Llygaid y duw Tãwhirimãtea”).  Yn ôl y chwedl, fe wnaeth y gwynt , mewn tymer, dynnu allan ei lygaid a’i taflu i’r wybren oherwydd i’w rieni wahanu.  Yn ôl y chwedl Roegaidd, fe adwaenir Clwstwr Sêr Pleiades hefyd fel y Saith Chwaer, sy’n cynrychioli saith merch Atlas a’r nymff Pleione, a chafodd ei hachub gan Atlas rhag ymgais ddi-baid yr heliwr mawr Orïon.

Delwedd:  NASA/JPL-Caltech (Parth Cyhoeddus)

Gem yng Nghoron y Gaeaf

RA: 05h 35m 16.8s | DEC: −05° 23′ 15″
Mae Nifwl Orïon bob amser yn syfrdanol yn ystod misoedd y gaeaf, oherwydd ei strwythur trawiadol yn ymddangos mewn hyd yn oed telesgopau gweledol cyffredin.

Fe ellir gweld y gwrthrych anhygoel hwn gyda’r llygaid noeth ar noson dywyll.

Wedi’i leoli yng nghytser Orïon, mae’r feithrinfa sêr hon yn gorwedd 1,500 o flynyddoedd golau i ffwrdd oddi wrthym.

Delwedd:  Gan NASA, ESA, M Robberto (Space Telescope Science Institute/ESA) a’r Thîm Prosiect Hubble Space Telescope Orïon Treasury (Parth Cyhoeddus)

Fe allwch ei darganfod wrth chwilio am siap awr wydr a’r gwregys tair seren uwchben y gorwel deheuol.  O fewn y gwregys mae cleddyf disglair wybrennol yn hongian, lle mae Nifwl Orïon wedi’i leoli.  I’r llygaid noeth, mae’n ymddangos fel seren chwyddedig, ond trwy delesgop, mae’r nifwl yn blodeuo fel tegeirian gwyn cosmig, gyda’r sêr yn debyg i friger yn y canol.  Mae’r sêr hynny yn cynwys sêr-gynulliad Trapesiwm.  O dan yr wybren dywyll a thrwy delesgop fwy gydag agorfa o ddeg modfedd neu fwy, fe ellir gweld awgrym gwan o liw.

Wedi’i oleuo gan olau uwchfioled o sêr ifanc, mae’r nifwl yn cynnwys oddeutu 3,000 o sêr ifanc, corblanedau brown a hyd yn oed disgiau protoblanedol lle gellir ffurfio planedau newydd.

Cydnabyddiaeth am y ddelwedd:  laru, CC BY-SA 4.0, trwy Wikimedia Commons

Dau Nifwl am Bris Un

I’r rhai ohonoch â thelesgop clyfar, mae yna ddau nifwl serffurfiol trawiadol sy’n werth eu dal, ac sy’n edrych yn hyfryd mewn maes gweld llydan neu eu delweddu ar wahân.

Mae Pen Ceffyl (Barnard 33) a Nifwl Fflam (NGC 2024) yn ardaloedd serffurfiol cyfagos sydd wedi’u lleoli yng Nghytser Orïon.  Maent wedi’u lleoli o gwmpas y seren Alnitak, sef seren las ddisglair yng nghanol y ddelwedd.

Gan Stephanh – Gwaith ei hun, CC BY-SA 4.0

Nifwl allyriad llachar yw’r Nifwl Fflam, wedi’i oleuo gan belydriad uwchfioled o Alnitak, gydag ardal o lwch tywyll yn croestorri’r canol, sy’n galluogi’r nifwl i edrych fel fflam.

Mae cefndir Nifwl Pen Ceffyl wedi’i oleuo gan y sêr Sigma Orionis a Alnitak, gyda Phen Ceffyl wedi’i gerfio gan lwch trwchus a nwy moleciwlaidd oer.

Mae’r ddau’n ardaloedd serffurfiol, wedi’u llenwi â phocedi trwchus o nwy a llwch, ac yn eistedd tu ôl i gwmwl moleciwlaidd enfawr Orïon B.  Gwasgir y defnydd hwn gan ddisgyrchiant, gan gwympo a chreu sêr newydd.

Delwedd:  Cwmwl Moleciwlaidd Orïon B

Gan Rogelio Bernal Andreo, CC BY-SA 3.0

Cynghorion ac Awgrymiadau

Gorau oll, po dywyllaf yr wybren
Chwiliwch am ardal o wybren dywyll, i ffwrdd o lygredd oleuni a dewisiwch noson heb olau leuad.

Defnyddiwch modd cyhydeddol
Mae gan eich uned fodd alt-azimuth sy’n ddigonol ar gyfer targedau mwy disglair, yn ogystal ag opsiwn modd cyhydeddol. Mae modd cyhydeddol yn well ar gyfer amlygiadau hirach, gan fod y tracio yn dilyn symudiad bwaog y sêr oherwydd cylchdro’r Ddaear.

Modd Mosaig:
Efallai na fydd gan eich telesgop lens yn ddigon mawr i ddal y ddau nifwl mewn un delwedd. Felly fe fydd rhaid cymryd nifer o ddinoethiadau wrth i’ch telesgop symud ar draws yr ardal darged, gan ddal y fframiau a’u pwytho at ei gilydd fel teils i greu un ffotograff maes llydan.  Fe allwch ddefnyddio ‘Modd Mosaig” os dymunwch er mwyn dal y cymdogion cosmig gyda’i gilydd.

Byddwch yn amyneddgar:
Ceisiwch gael nifer o oriau o amser datguddiad – gosodwch eich uned i gymryd datguddiadau 20-30 eiliad.

Ydych chi eisiau gweld rhagor o fanylder yn eich delwedd?
Dylai’ch uned fod yn gallu prosesu a stacio’r delweddau hyn, ond os fyddwch yn safio’ch data crai (lle mae’r telesgop yn safio’r holl datguddiadau unigol, yn hytrach na’u stacio mewn un ffeil delwedd), mae yna feddalwedd da, ffynhonnell agored ar gael megis GraXpert a Siril os byddwch yn dymuno prosesu’r ddelwedd olaf ym mhellach.