Llygaid ar Awyr y Nos – Tachwedd 2026

Llygaid ar Awyr y Nos – Tachwedd 2026

31st Hydref 2026

Croeso i ddiweddariad y mis hwn i ddarganfod beth sydd yn wybren y nos ym mis Tachwedd

Ym Mharc Rhyngwladol Wybren y Nos Cwm Elan, mae tywyllwch seryddol yn parhau am 10 awr 30 munud o 18:40 ar ddechrau’r mis, a 11 awr 46 munud o 18:09 ar y diwedd. Rhain yw’r amodau gorau ar gyfer gweld ac i ddal delweddau o’r alaethau pell, clystyrau o sêr a nifylau.

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 9fed o Dachwedd a’r Lleuad Lawn ar y 24ain o Dachwedd.

Fe fydd Lleuad Lawn yr “Afanc” yn Uwchleuad, oherwydd bod ei gwedd yn cyd-ddigwydd â pherigê.
Mae’r Lleuad yn troi o gwmpas y Ddaear yn eliptig , sy’n golygu bod adegau pan fyddai yn agosach neu’n bellach i ffwrdd oddi wrthym. Mae’r perigê yn golygu bod y Lleuad yn ymddangos hyd at 6.5% yn fwy a 13.5% yn fwy llachar na pham mae ar ei phellafbwynt – y man pellaf oddi wrthym.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Mae golwg awyr cyfan o’r cytserau o 10yh ar y 1af o Dachwedd ar in-the-sky.org – mae hwn yn fap argraffadwy – cliciwch neu dapiwch ar y ddelwedd i lawrlwytho’r pdf.

Y Planedau ym mis Tachwedd

Ar y 15fed o Dachwedd, fe gewch gyfle i astudio pedair planed ar yr un amser. Am 6yb, edrychwch tua’r gorwel de-ddwyreiniol ac fe welwch y blaned Mercher yn codi, gyda’r blaned Gwener wedi’i lleoli yn safle dau o’r gloch. Wedi’u lleoli’n dda uwchben y gorwel deheuol mae’r blaned Iau a’r blaned Mawrth wedi’u gwahanu gan 1.2 gradd o bellter. O dan y blaned Gwener mae’r seren Spica yng nghytser blaned y Forwyn. Mae awyrgylch tawel oriau mân y bore yn rhoi ansawdd wybren berffaith i weld y planedau trwy delesgop, yn enwedig y blaned Iau a’r blaned Mawrth. Fe fydd hyn yn cynyddu’r siawns o weld mwy o fanylder ar wynebau’r planedau hyn.

Cawod Sêr Gwib Leonid

Fe fydd cawod Sêr Gwib Leonid yn digwydd o’r 6ed i’r 30ain o Dachwedd 2026. Fe fydd yr uchafbwynt yn digwydd yn ystod noson y 17eg ac yn ystod oriau mân y bore ar y 18fed o Dachwedd. Yn hanu o gytser y Llew, fe gellir gweld oddeutu 10 – 15 ‘sêr gwib’ yr awr. Fe fydd y Lleuad yn machlud am 11.40yh, ac fydd hyn yn rhoi wybren dywyll er mwyn gweld y sêr gwib ar eu gorau.

Credir mai’r rhain yw’r gwibfeini cyflymaf, yn teithio hyd at 160,000 milltir yr awr gan adael traciau mân. I roi hyn mewn persbectif, mae hyn bron deg gwaith yn fwy cyflym na gofod-hedfan dynol wrth ddychwelyd i’r atmosffer! Os byddwch yn ffodus, efallai fe wnewch weld pelen o dân. Malurion yw’r gwibfeini hyn o’r Comet 55P/Tempel-Tuttle, seren gynffon cyfnod byr gyda throgylch 33 mlynedd.

Rydym yn sôn am hyn bob blwyddyn, ond mae’r gawod sêr hwn yn gysylltiedig â ffrwydrad anferth bob 33 mlynedd, lle gwelwch miloedd o wibfeini. Dim ond oddeutu saith mlynedd arall i aros cyn hyn!

Image credit: Navicore CC BY 3.0

Hyfrydwch yr Wybren Ddwfn

Darganfyddwch brif dargedau’r mis hwn ar gyfer telesgopau, ysbienddrych a’r llygaid noeth.

Yn ychwanegol, edrychwch ar ein herthygl newydd, lle byddwn yn dewis trysorau gorau’r wybren ddwfn i’w gweld trwy eich telesgop clyfar.

Rhaeadr Kemble

O fewn cytser pell a di-nod Camelopardalis, mae gwrthrych hyfryd y gellir ei weld trwy ysbienddrych. Fe’i adwaenir fel Rhaeadr Kemble, ac mae’r sêr-gynulliad yn ymestyn ar draws pellter o bum lleuad lawn gan gynnwys oddeutu 30 o sêr wedi’u trefnu mewn ffrwd di-dor. Fe gafodd ei ddarganfod ar ddiwedd yr 1970au gan y Tad Lucian Kemble, seryddwr amatur o Ganada.

I’w weld, edrychwch am ddwy seren Cassiopeia sy’n ffurfio ar y naill ben a’r llall, a defnyddiwch y pellter hwnnw i fesur allan y seren Segin, i’r chwith o Perseus. Codwch eich ysbienddrych a sganiwch yr ardal. Fe ddaw llinell amlwg o sêr i’r golwg.

Rhosyn Wybrennol

RA: 23h 57m 24s | DEC: +56° 42′ 30″

Mae targed y telesgop hwn yn gorwedd 7,600 o flynyddoedd golau i ffwrdd ac wedi’i leoli yng nghytser Cassiopeia. Fe’i adwaenir fel Rhosyn Caroline (NGC 7789), ac fe’i ddarganfuwyd ym 1783 gan Caroline Herschel, chwaer William Herschel, trwy delesgop 8 modfedd.

Mae’n ymddangos fel clwstwr dwys o sêr pell gyda llwybrau o lwch yn ystumio trwy’r clwstwr, yn debyg i betalau rhosyn. Mae’r clwstwr yn cynnwys 3,000 o sêr llachar, a hyd at 16,000 o rhai pellach, sy’n rhwym i ddisgyrchiant. Mae’r sêr yn y clwstwr hwn oddeutu tair gwaith yn iau na’n haul ni.

Image credit: Bortle 7

I neidwyr y sêr, gyda thelesgopau ag agorfa o 6 modfedd neu’n fwy, gwynebwch y gorwel gogledd-orllewinol ac edrychwch am gytser Cassiopeia, sydd yn agos at yr anterth. Chwiliwch am y seren Caph ar yr ochr chwith o’r ‘m’ sêr-gynulliad Cassiopeia. Fe welwch Rhosyn Caroline yn dod i’r golwg trwy eich darganfyddwr fel darn o olau bach, niwlog. Edrychwch drwy’ch sylladur ac fe welwch sêr yn agos at ei gilydd mewn cylch gwasgaredig. Edrychwch o wegil y llygad er mwyn canfod y llwybrau llwch yn y clwstwr sy’n ffurfio’r petalau yn y seren wybrennol hon.

Calon ac Enaid

I’r rhai ohonoch sydd â thelesgop clyfar, rydym yn gallu argymell dau nifwl sydd yr rhan o’r un feithrinfa serol enfawr. Mae’r nifylau Calon ac Enaid (IC 1805 ac IC 1848) wedi’u lleoli yng nghytser Cassiopeia ac yn rhai pleserus i’w dal. Fe allwch eu dal ar wahan neu ddefnyddiwch modd mosaig ar eich telesgop clyfar er mwyn fframio’r nifylau ochr yn ochr. Chwiliwch am enwau cyffredin y nifylau neu eu rhifau catalog, megis “IC 1805”.

Wedi’i lleoli oddeutu 7,500 o flynyddoedd golau i ffwrdd, mae Nifwl Calon (IC 1805) yn edrych fel siap calon wybrennol, tra bod IC 1848 yn edrych fel embryo dynol. Maent yn disgleirio mewn golau coch oherwydd ymbelydredd uwchfioled dwys sy’n dod o’r sêr newydd -anedig. Mae’r sêr ifanc hyn miloedd o flynyddoedd yn iau na’n haul ni. Yng nghanol y Nifwl Calon mae clwstwr agored o sêr ifanc a dirgrynol Melotte 15, sy’n pelydru ymbelydredd ac yn ïoneiddio gan ffurfio’r nwyon cyfagos.

Image credit: Oliver Gutiérrez Suárez (StarlightHunter.com)

Cyngor ac Awgrymiadau

Gorau oll, po dywyllaf yr wybren
Chwiliwch am ardal o wybren dywyll, i ffwrdd o lygredd oleuni a dewisiwch noson heb olau leuad.

Defnyddiwch modd cyhydeddol
Mae gan eich uned fodd alt-azimuth sy’n ddigonol ar gyfer targedau mwy disglair, yn ogystal ag opsiwn modd cyhydeddol. Mae modd cyhydeddol yn well ar gyfer amlygiadau hirach, gan fod y tracio yn dilyn symudiad bwaog y sêr oherwydd cylchdro’r Ddaear.

Modd Mosaig
Ni fydd gan eich telesgop lens digon llydan i ddal y ddau nifwl mewn un delwedd. Bydd rhaid tynnu nifer o ddatguddiadau wrth i’ch telesgop symud ar draws yr ardal darged, gan gymryd ddatguddiadau a’u pwytho at ei gilydd fel teils er mwyn creu un llun llydan. Fe allwch ddefnyddio ‘Modd Mosaig’ er mwyn dal y cymdogion cosmig gyda’i gilydd.

Byddwch yn amyneddgar:
Ceisiwch gael nifer o oriau o amser datguddiad – rhowch eich uned i gymryd datguddiadau 20-30 eiliad.

Ydych chi eisiau mwy o fanylder yn eich delwedd?
Dylai eich uned gallu prosesu a stacio’r delweddau hyn, ond os byddwch yn cadw’ch data amrwd (lle mae’r telesgop yn cadw’r holl ddatguddiadau unigol, yn hytrach na’u stacio ar un ffeil delwedd). Mae meddalwedd da, ffynhonnell agored ar gael megis GraXpert a Siril os byddwch eisiau prosesu’r ddelwedd olaf ymhellach.