Pori Gwartheg er Budd Cadwraeth

Pori Gwartheg er Budd Cadwraeth

02nd Hydref 2026

Mae’r bugail Dean Addison wedi gweithio ymhlith bryniau Cwm Elan yn ystod y 19 mlynedd diwethaf. Tua phedair neu bum mlynedd yn ôl, cyflwynwyd gwartheg brodorol i helpu i reoli ardaloedd a oedd wedi’u dominyddu gan Wellt y Gweunydd, a rhedyn.

Ar y bryn wrth ymyl Penygarreg, lle mae Dean yn ffermio, gall Gwellt y Gweunydd ffurfio twmpathau gwellt trwchus a dominyddu’r llystyfiant. Mae defaid yn dueddol o ddewis tyfiant byrrach, mwy blasus, tra bod gwartheg yn llai dethol gan fwyta glaswellt hirach, bras.


Un her ar draws rhannau o’r ystâd yw ardaloedd sy’n cael eu dominyddu gan Wellt y Gweunydd a rhedyn. Mae defaid yn pori’n ddethol, yn ffafrio planhigion mwy blasus gan bori o gwmpas twf caletach fel Gwellt y Gweunydd, gan gael gwared ar ei gystadleuaeth a chaniatáu iddo ledaenu ymhellach. Heb ei reoli, gall twf trwchus fel hyn hefyd gronni fel llwyth tanwydd, gan gynyddu’r risg o danau gwyllt mewn amodau sychder.

Mae gwartheg yn pori’n llai dethol, gan fwyta Gwellt y Gweunydd yn hytrach na’i osgoi, ac mae eu pwysau a’u symudiad yn helpu i sathru a chwalu twmpathau gwellt trwchus. Mae sathru dro ar ôl tro ar redyn yn gwanhau ac yn torri i lawr ei goesau a’i rhisomau tanddaearol dros amser.

Gall gwartheg hefyd gyrraedd tir serth neu anodd sy’n anos ei reoli trwy ddulliau eraill. Rydym yn defnyddio pori gwartheg wedi’i dargedu fel un dull i reoli’r ddau, gan greu strwythur llystyfiant mwy amrywiol ac agor lle i ystod ehangach o blanhigion a phryfed.

Yn gynharach yn yr haf, defnyddiwyd coleri GPS @Nofence gennym i dargedu’r pori lle mae ei angen fwyaf ac addasu rheolaeth yn ôl ardal.

Mae Dean Addison, sy’n rheoli’r gwartheg, yn esbonio sut mae’n gweithio ar y tir.