Cynaeafu gwair yn nolydd ucheldir Cwm Elan

Cynaeafu gwair yn nolydd ucheldir Cwm Elan

01st Medi 2026

Mae’r haul yn tywynnu eto, ac mae’r Prif Fugail Glyndŵr eisoes hanner ffordd ar draws y cae ar y tractor, yn torri gwair cyn i wres y dydd gyrraedd ei anterth.

Daw’r cynaeafu gwair yn hwyr yn nolydd ucheldir traddodiadol Cwm Elan. Mae’r torri hwyrach yn fwriadol, gan roi amser i flodau a gweiriau’r ddôl flodeuo a bwrw had cyn cyflwyno’r llafnau.

“Mae torri’n hwyrach yn helpu i adfywio’r blodau, yr had,” eglura Glyndŵr. Ar ôl ei dorri, mae’r gwair yn sychu yn y cae am sawl diwrnod ac yn cael ei droi cyn ei fyrnu, gan helpu i ysgwyd had yn ôl i’r ddaear, hadau a fydd yn helpu i gynhyrchu blodau a glaswellt y dyfodol. Yna bydd y gwair yn cael ei fyrnu a’i fwydo i’r gwartheg brodorol drwy’r gaeaf.

“Mae’r arogl, arogl dôl blodau go iawn sydd wedi cael ei gynaeafu’n iawn yn well nag unrhyw Gucci,” mae’n tynnu coes.

Mae wedi bod yn haf eithriadol o sych. Dim ond 8% o’i lawiad cyfartalog hirdymor a gafodd Cymru ym mis Gorffennaf, gan roi’r wlad ar drywydd ei mis Gorffennaf sychaf ers dechrau cofnodion 190 mlynedd yn ôl, tra canfu dadansoddiad yr Uned Gwybodaeth Ynni a Hinsawdd, fod twf glaswellt ledled Prydain ar tua 46% yn is na’r cyfartaledd.

Nid caeau cyffredin mo’r rhain. Mae fferm Neuaddfach yn eistedd o fewn clwstwr o ddolydd gwair ucheldir traddodiadol sy’n ymestyn ar draws 20km o Gwm Elan. Nid yw’r tir wedi cael ei aredig na’i ail-hadu ers cenedlaethau, nac wedi ei wrteithio’n drwm, gan ganiatáu i’w gymunedau planhigion brodorol barhau.

Mae glaswelltiroedd niwtral ac asidig Cwm Elan sy’n llawn rhywogaethau ymhlith y pwysicaf yng Nghymru, yn cynnwys blodau gwyllt prin gan gynnwys bwrned mawr, trilliw’r mynydd, ffacbysen chwerw a thegeirian llydanwyrdd. Mae’r ffaith eu bod wedi goroesi yn bennaf oherwydd parhad yr arferion ffermio mewnbwn isel a helpodd i’w creu yn y lle cyntaf.

“Dydyn ni ddim eisiau colli’r hen flodau yma, yr hen laswelltau traddodiadol yma sy’n gallu tyfu heb ddim gwrtaith,” meddai Glyndŵr. “Maen nhw’n frodorol i’r rhan hon o’r byd. Os yw’n cael ei ffermio fel hyn, mae ganddyn nhw gyfle i dyfu.”

Mae’r sychder eleni hefyd yn codi cwestiwn cynyddol bwysig ynglŷn â sut mae glaswelltiroedd amrywiol, sy’n llawn rhywogaethau, yn ymdopi wrth i hafau ddod yn boethach ac yn sychach.

“Mae rhai o’r planhigion hyn yn tyfu, lle na fyddai mathau modern,” meddai, “oherwydd bod rhai ohonynt yn gwreiddio’n ddwfn, ac maen nhw’n treiddio i lawr drwy’r pridd i gael y dŵr.”

Efallai bod cadw’r pridd dan orchudd glaswellt trwchus am gyfnod hwy hefyd yn helpu. “Gyda phrinder dŵr ym mhobman, os gallwch gadw dŵr yn y ddaear, mae’n golygu bod y planhigion hyn yn goroesi,” meddai.

Mae ymchwil yn awgrymu y gall amrywiaeth planhigion a nodweddion gwreiddio ddylanwadu ar sut mae glaswelltiroedd yn ymateb i sychder, gyda rhywogaethau sy’n gwreiddio’n ddyfnach yn gallu cael mynediad at ddŵr o ymhellach i lawr y proffil pridd. Gall priddoedd glaswelltir parhaol hefyd adeiladu defnydd organig a chefnogi ymdreiddiad dŵr, gan helpu i gadw dŵr yn y dirwedd ac arafu’r gyfradd y mae glawiad yn rhedeg oddi arno.

Mae rhai o ddolydd Cwm Elan bellach â statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan wedi treulio blynyddoedd yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac ecolegwyr lleol i ddeall y ffordd orau i’w gwarchod a’u rheoli.

Unwaith y bydd y gwair yn cael ei gasglu, bydd da byw yn dychwelyd i bori’r hyn sy’n weddill yn yr hydref, rhan bwysig o gynnal amrywiaeth y ddôl.

Y berthynas honno rhwng da byw, glaswelltir a’r tymhorau yw’r wybodaeth y mae Glyndŵr yn meddwl fwyfwy am ei throsglwyddo. Gyda thenantiaid ffermio newydd yn cyrraedd ystâd Cwm Elan yr hydref hwn, mae eisiau i’r genhedlaeth nesaf ddeall nid yn unig sut mae’r caeau hyn yn cael eu ffermio, ond pam.

“Rydw i eisiau ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf sy’n mynd i ddod i ffermio yn y lleoedd anghysbell yma,” meddai. “Mae’n ddyletswydd arnaf.”

Nid techneg ffermio yn unig mae’n ei olygu. Yr enwau lleoedd, amseriad casglu defaid a’r wybodaeth ecolegol draddodiadol o sut i weithio gyda’r dirwedd benodol hon, a drosglwyddwyd rhwng cenedlaethau o deuluoedd ffermio Cymreig: ar gof a chadw, fel y mae’n dweud.

Ar draws rhannau helaeth o Brydain, mae dolydd traddodiadol sy’n llawn rhywogaethau wedi diflannu. Yma, maent yn parhau yn rhannau gweithio o’r dirwedd ffermio, gan gynhyrchu porthiant gaeaf, cefnogi planhigion prin a bywyd gwyllt, a chadw gwybodaeth am sut i reoli’r caeau penodol hyn.

Wrth i dywydd poethach, sychach ac anwadal greu heriau newydd i ffermio a’r amgylchedd naturiol, bydd deall sut mae’r glaswelltiroedd amrywiol hyn yn ymateb, a’r ffordd orau i’w rheoli, yn dod yn fwyfwy pwysig.

Neu, yn symlach yng ngeiriau Glyndŵr: “Rwy’n credu y dylem geisio gofalu amdanyn nhw ychydig yn well. Rwy’n siŵr y byddan nhw’n gofalu amdanon ni os byddwn yn gofalu amdanyn nhw.”