Croeso i rifyn y mis hwn er mwyn clywed beth sydd yn wybren y nos yn ystod mis Awst.
Mae tywyllwch seryddol yn dychwelyd i Barc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan am 20 munud ar yr 8fed o Awst rhwng 23:37 a chanol nos. Oddi yma ymlaen mae tywyllwch seryddol yn cynyddu gydol y mis.
Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 12fed o Awst a’r Lleuad ‘Stwrsiwn’ Lawn ar yr 28ain o Awst.

Golwg wybren eang o’r cytserau o ganol nos ar y 1af o Awst o in-the-sky.org – gellir printio’r map – cliciwch ar y ddelwedd er mwyn lawrlwytho’r pdf.
Cytser y Mis – Y Saethydd.
Mae’r Saethydd yn ymddangos fel cytser ar ffurf tebot. Mae’r ‘Tebot’ yn enwog fel patrwm seryddol adnabyddus oddi mewn i gytser llawer mwy y Saethydd. Mae wyth o’i sêr mwyaf eu llewyrch yn amlinellu ffurf tebot, gyda dolen, caëad, corff a phig (gyda’r ddolen ar yr ochr chwith a’r pig ar y dde). Mae’r llestr seryddol hon yn cynnwys llawer o drysorau’r wybren bellenig y byddwn yn eu trafod yn rhifyn y mis hwn.
Delwedd: Johann Elert Bode – Y Saethydd a Tharian Sobieski.


Mae’r cytser hwn yn adleisio cyfnodau hynafol, gyda’r Swmariaid yn dynodi ‘r Saethydd fel Pabilsag, duw ffyrnig rhyfel a hela; roedd hefyd yn saethwr medrus. Cafodd ei ddarlunio’n wreiddiol fel hanner dyn – hanner ceffyl ag iddo adennydd. Mae ei enw’n golygu ‘Prif Hynafiad’ neu ‘Gyndad’.

Golygfa Ddwbl
Diffyg rhannol ar yr haul – 12fed o Awst.
Bydd diffyg rhannol dwfn ar yr haul yn digwydd ar y dyddiad hwn, sy’n digwydd ar y cyd ag uchafbwynt cawod sêr mwyaf y flwyddyn. Mae gweld dau ddigwyddiad seryddol allweddol o’r math hyn yn digwydd ar yr un diwrnod yn hynod brin ac ni fydd yn digwydd eto. Mae sioe y prynhawn hwyr yn dechrau am 6:15yh wrth i’r Lleuad basio a flaen yr Haul. Bydd gwylwyr y sêr yng Nghanolbarth Cymru yn gallu gweld un o’r diffygion dyfnaf ar y haul yn y DU, gyda 94% o’r Haul wedi ei guddio gan y Lleuad am 7:12yh, cyn i’r Lleuad adael wyneb yr Haul am 8:06yh.
Cawod Sêr Perseid – 17eg- 24ain o Awst- ar ei hanterth ar y 12fed o Awst.
Wrth i’r tywyllwch ddisgyn, edrychwch i wybren y nos wrth i’r gawod Sêr Persaid gyrraedd ei hanterth. Ar y dechrau gallwch adnabod ychydig ohonynt wrth i’r noson dywyllu, ond wrth i ganol nos agosáu bydd nifer y sêr gwib yn cynyddu’n ddramatig. Bydd oddeutu 150 o sêr gwib yr awr yn ystod yr uchafbwynt ac efallai y byddant yn ymdangos yn llachar a chyflym gyda hyd yn oed cynffonnau’n mygu.


At hynny, Diffyg rhannol ar y Lleuad!
Yn ystod oriau mân yr 28ain o Awst bydd yna ddiffyg rhannol dwfn ar y Lleuad. Bydd yn gyfle i weld Lleuad lliw gwaed. Bydd boregodwyr yn gallu gweld y gogysgod (lle mae cysgod y Ddaear yn dechrau cyffwrdd â’r Lleuad) am 2:23yb, gyda diffyg rhannol yn dechrau am 3:33yb ac yn cyrraedd uchafbwynt am 5:12yb, gyda 93% o gysgod y Ddaear yn gorchuddio’r Lleuad. Wrth iddi wawrio, fe fydd yn rhy olau i weld gweddill y diffyg.

Pum Gwrthyrch Pennaf yr Wybren Bellennig
Dewisiwn ein pum gwrthrych pennaf yn wybren y nos ar gyfer mis Awst. Bydd angen i chi weld gorwel isel ynghyd ag wybren dywyll er mwyn eu hastudio gan fod y gwrthrychau hyn yn gorwedd o fewn cytser y Saethydd.

5: Messier 25
Cyfesurynnau: RA 18h 31m 47.0s | Dec −19° 07′ 00″
Math: Cytser Sêr Agored.
Yn cael ei adnabod hefyd fel: IC 4725
Pellter: 2,000 o flynyddoedd golau
Ffeithiau: Mae’n cynnwys seren newidiol math Delta Cephei o’r enw U Sagittarii. Mae’n goleuo ac yn tywyllu dros 7 diwrnod, sydd wedi cynorthwyo gwyddonwyr i lunio fframwaith ar gyfer mesur pellteroedd yn y gofod.
Golwg: Mae’n ymddangos fel casgliad llac o 30 seren trwy ysbienddrych 4 modfedd. Trwy ysbienddrych 12 modfedd gellir gweld hyd at 80 seren trwy chwyddwydr agoriad llydan.

4: Messier 22
Cyfesurynnau: RA: 18h 36m 24s | Dec: -23° 54′ 17.1″
Math: Cytser Cronellog
Pellter: 10,600 o flynyddoedd golau
Yn cael ei adnabod hefyd fel: NGC 6656, the Great Sagittarius Cluster
Ffeithiau: Yn cynnwys 100,000 i 300,000 o sêr. Mae Cytserau Cronellog wedi eu lleoli ar gyrion eithaf yr alaeth, a chredir mai nhw yw gwrthrychau hynaf y bydysawd. Y cytser cronellog mwyaf yn y Llwybr Llaethog yw Omega Centauri, sy’n cynnwys 10 miliwn o sêr!
Golwg: Trwy ysbienddrych 4 modfedd bydd y sêr allanol i’w gweld yn dadelfennu, gyda chanol niwlog. Trwy ysbienddrych 12 modfedd, gellir gweld sêr yn dadelfennu i’w craidd.

3: Nifwl yr Eryr
Cyfesurynnau: RA: 18h 18m 48s | Dec: -13° 49′ 00
Math: Emission Nebula and Open Star Cluster
Pellter: 7000 o flynyddoedd golau
Yn cael ei adnabod hefyd fel: Messier 16, Nifwl y Sêr Frenhines
Ffeithiau: Mae’n cynnwys yr enwog Bileri’r Greadigaeth. Ardal o sêr ifanc yn ffurfio, yn cynnwys dros 8000 o sêr.
Golwg: Trwy ysbienddrych 4 modfedd gellir gweld y cytser o sêr. Trwy ysbienddrych 12 modfedd, gyda hidlen UHC neu OIII gydag wybren dywyll, bydd ser-syllwyr yn gallu gweld mwy o fanylder y nifwl.

2: Nifwl Morlynnol
Cyfesurynnau: RA: 18h 03m 41s | Dec: -24° 22′ 49″
Math: Nifwl Allyriadol
Pellter: 6000 o flynyddoedd golau
Yn cael ei adnabod hefyd fel:Also known as: Messier 8
Ffeithiau: Y llwybr llwch yn ei chanol a roes fod i enw’r nifwl. Mae’n feithrinfa serennog, sy’n rhoi genedigaeth i sêr newydd. Mae’n cynnwys Peleni Bok, sy’n debyg i gocynau ar gyfer datblygiad cynnar sêr.
Golwg: Gellir ei weld trwy ysbienddrych. Gydag ysbienddrych 4 modfedd mewn wybren dywyll, efallai y gwelwch belen tebyg i gotwm gyda hollt trwy ei chanol gyda chasgliad o sêr ychydig oddi ar ei chanol. Bydd ysbienddrych o faintioli uwch yn dadlenni mwy o fanylion a maint y nifwl.

1: Nifwl Omega
Cyfesurynnau: RA: 18h 20m 26s | Dec −16° 10′ 36″
Math: Nifwl Allyriadol
Pellter: 5,500 o flynyddoedd golau
Yn cael ei adnabod hefyd fel: Nifwl yr Alarch (gan ei fod yn ymddangos fel alarch drwy ysbienddrych), hefyd Nifwl Pedol, Messier 17
Golwg: Bydd yn ymddangos fel smotyn aneglur, llwyd trwy ysbienddrych 4 modfedd. Trwy ysbienddrych 12 modfedd gellir gweld ffurf alarch wedi ei amgylchynu gan gwmwl o lwch. Byddai hidlen UCS neu 0III yn dandlenni mwy o gyferbyniad.
ESO/INAF-VST/OmegaCAM. OmegaCen/Astro-WISE/Kapteyn Institute CC BY 4.0
