Golwg ar Wybren y Nos – Gorffennaf 2026

Golwg ar Wybren y Nos – Gorffennaf 2026

30th Mehefin 2026

Croeso i ddiweddariad y mis hwn er mwyn canfod yr hyn sydd yn wybren y nos ar gyfer Gorffennaf.

Ym Mharc Ryngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan mae tywyllwch seryddol yn dychwelyd, mewn theori, ar y 25ain o Orffennaf – ac ond am 13 munud y digwydd hynny. P’run bynnag, mae hyn yn cael ei gymhlethu gan fod y Lleuad yn yr wybren – bydd syllwyr y sêr yn gallu mwynhau’r Llwybr Llaethog yn ei gogoniant am ryw 20 munud ar yr 8fed o Awst rhwng 23:37 a hanner nos.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Ceir golwg holl-wybrennol o’r clystyrau o ganol nos ar y 1af o Orffennaf o wefan in-the-sky.org – gellir printio’r map – cliciwch ar y ddelwedd i lawrlwytho’r PDF

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 14eg o Orffennaf a’r Lleuad Lawn ar y 29ain o Orffennaf.

Cytser y Mis – Offichws

Ymddengys Offichws fel gwrthrych hirsgwar fawr gyda thô trionglog. Fe’i leolir yn union uwchben y gorwel ddeheuol ar ganol nos. Mae’n un o’r 13 o gytserau’r sidydd sy’n gorwedd ar hyd y linell ecliptig (y linell felen yn y map ‘all-sky’ uchod). Mewn seryddiaeth, y Sidydd yw’r rhwymyn  o gytserau y mae’r Haul yn eu croesi gydol y flwyddyn. Y 12 cytser sidyddol eraill yw: yr Hwrdd, y Tarw, yr Efeilliaid, Cancr, y Llew, y Forwyn, y Fantol, y Scorpion, y Saethydd, yr Afr, y Dyfrwr, y Pysgod.

Delwedd: John Flamsteed

Ym mytholeg Groeg, mae Offichws yn cynrychioli Asclepws, duw meddygaeth y Groegiaid. Dysgodd ei grefft gan y Dynfarch, Chiron. Fe gurodd hyd yn oed medr ei feistr trwy atgyfodi’r meirw, wrth sylwi sut yr oedd neidr yn dod â pherlysiau meddygynieithol at neidr arall er mwyn ei ddwyn yn ôl i fywyd. Yn anffodus, sylwyd ar ei ymderchion gan Hades, a oedd yn poeni y byddai dynoliaeth o ganlyniad yn anfarwol gan achosi i’r duwiau golli eu pwerau. Wrth gwyno at ei frawd Sews roedd hwnnw wedi perswadio Hades i ddinistrio Asclepws gyda tharan-follt. Yna, fe anrhydeddodd Sews yr Asclepws marw trwy osod ei ddelwedd yn y ffurfafen. Mae ffon Asclepws yn symbol meddygaeth fodern heddiw, gan ddarlunio neidr yn cordeddu ffon.

Tair Cawod o Sêr Gwib

Mae yna dair cawod o sêr gwib y mis hwn:

Alpha Capricornids -– 3ydd o Orffennaf hyd y 15fed o Awst
Ar eu hanterth ar y 30ain o Orffennaf. Mae oddeutu 25 o Sêr Gwib  yr awr ar yr anterth ac os byddwch yn ddigon ffodus i’w gweld, mi fyddant yn ymddangos fel pelenni melyn yn symud yn araf.

Dyfryddion Delta Deheuol – 12fed o Orffennaf hyd y 23ain o Awst.
Ar eu hanterth ar y 30ain o Orffennaf. Mae oddeutu 25 Sêr Gwib yr awr ar yr anterth ac mi fyddant yn ymddangos fel rhes gyson o Sêr Gwib.

Perseidiau – 17eg o Orffennaf hyd y 24ain o Awst
Ar eu hanterth ar y 12fed o Awst, gydag oddeutu 150 o Sêr Gwib yr awr yn ymddangos fel sêr gwib llachar a chyflym gyda’u cynffonnau’n mygu hyd yn oed.

Tymor Cymylau Nosgrwydrol

Mae tymor y cymylau nosgrwydrol ar ei anterth ym mis Gorffennaf.

Mae tymor y cymylau nosgrwydrol ar ei anterth y mis hwn. Yn cael eu hadnabod hefyd fel cymylau nosol llachar, mae’r rhubannau glas-drydannol nefolaidd yn ffurfio yn y mesosffer, 50 milltir uwch ein pen. Maent yn ymddangos yn anghredadwy trwy ysbienddrych. Os oes gennych ffôn clyfar modern a thrybedd, gosodwch y ffôn ar fodd awtomatig neu fodd nosol; gosodwch saib o 5 eiliad er mwyn dygymod ag unrhyw ysgwyd ar ran y camera a thynnwch lun o’r cymylau prydferth mor eglur â phosib.

Mae cymylau nosgrwydrol yn cael eu creu gan anweddiad dŵr yn rhewi gan greu crisialau o rew, yn torri i ffwrdd o lwch y sêr gwib. Mae disbyddwr roced hefyd yn gallu achosi’r ffurfiad yma.

Yr amser gorau i weld Cymylau Nosgrwydrol yw oddeutu 90-120 munud wedi i’r haul machlud neu 90-120 munud cyn godiad haul.

Cydgysylltiad Planedol ar y 9fed o Fehefin

Cyfle i weld Planed Wranws

Mae Gorffennaf yn fis gwych i weld y blaned Wranws, sy’n anodd ei gweld fel arfer. Pan y bo’n agos at wrthych arall mae’n haws ei gweld. Ar y 4ydd o Orffennaf bydd Wranws mor agos a 9.6 archfunud o’r blaned Mawrth, gan wneud Wranws yn haws ei gweld. Gallwch ei gweld trwy ysbienddrych, efallai yr ymddengys yn wyrdd-las ei lliw ac yn safle 10 o’r gloch o’r blaned Mawrth.

Trwy ysbienddrych 8 modfedd gyda chwyddiad o 46 mi allwch weld Mawrth yn oren ynghyd â disgen gwyrdd-las Wranws.

Cynyddwch y chwyddiad i 200 ac fe welwch ddau o leuadau mwyaf Wranws, sef Oberon a Thitania, a’u henwau’n dod o waith Shakespeare “Breuddwyd Nos Gŵyl Ifan”.

Gosodwch eich larymau’n gynnar ar gyfer yr olygfa hyfryd hon!

Y Lleuad a’r Sêr yn ymuno

Bydd cydgysylltiad hyfryd arall yn digwydd yn ystod oriau mân yr 11fed o Orffennaf. Gan ledu i bellter o 5 gradd, (lled tair bys wedi eu hymestyn hyd braich), mi welwch ddosbarthiad o Gytser Sêr Pleiades, y Lleuad wedi’i goleuo hyd at 15% a’r blaned Mawrth yn isel ar y gorwel. Defnyddiwch eich ysbienddrych i weld Wranws yn gorwedd rhwng y Lleuad a’r blaned Mawrth.

Clod: ESO

Hwyaid yn hedfan? Be nesa?

Yn ystod nosweithiau goleuach yr haf, cawn gyfle i weld clwstwr agored gwefreiddiol yng nghytser y Tarian (Scutwm).

Wedi’i henwi’n Messier 11, neu Glwstwr yr Hwyaden Wyllt, mae’n cynnwys bron 3000 o sêr, gan gynnwys craidd o sêr ifanc cynnes glas yn ogystal â rhai sêr hŷn, sy’n gochlyd ac yn oerach. Er hynny, efallai na welwch y lliwiau trwy ysbienddrych yn sgil y pellter o 6,200 o flynyddoedd golau. Gallwch weld hwn gyda’r llygad noeth fel cwmwl bach aneglur yn yr wybren dywyll, ond gydag ysbienddrych mi allwch weld y sêr unigol.

Wrth edrych tua’r gorwel ddeheuol fe welwch gytser ar ffurf tebot yng nghlwstwr y Saethydd. Chwiliwch am y cytser ‘trapesoid anhafalochrog’ sy’n gorwedd uwchben; dyma y Tarian (Scutum, gair Lladin y Rhufeiniaiad am darian). Mae cyster Acwila yr Eryr yn gorwedd uwch ei ben.

Mi welwch y clwstwr agored hyfryd hwn trwy ysbienddrych ond mae’r darlun yn dangos yr hyn y mae Clwstwr yr Hwyaden Wyllt trwy ysbienddrych 8-modfedd ar chwyddiad o 125. Mi fydd yn ymddangos i rai fel haid o adar yn hedfan i fyny ar siap V, neu efallai y gwelwch y clwstwr fel ffurff seren.

Llun, clod: Michael Vlasov o Deepskywatch.com