Llwybrau Tudor – y Cyfan am Glawfesuryddion

Llwybrau Tudor – y Cyfan am Glawfesuryddion

02nd Tachwedd 2026

Glawfesuryddion yn Nyffryn Claerwen a Chwm Elan

Wrth i chi gerdded bryniau’r dalgylch dŵr yn Nyffryn Claerwen a Chwm Elan, fe fyddwch wedi dod ar draws darn bach sgwâr o dir caeedig yng nghanol unman, neu ei weld ar fap Ordnans gyda’r geiriau “Glawfesur” wedi’i brintio’n gyfagos i ddot bach neu gylch sy’n dynodi ei leoliad materol. 

Ar un amser, roedd hyd at 30 o lawfesuryddion ar draws y ddau gwm, gyda 15 yn Nyffryn Claerwen a 15 yng Nghwm Elan.

Roedd rhai ohonynt mewn ardaloedd anghysbell iawn, ond roedd yn bosib eu cyrraedd ar droed – sef taith gerdded hir ac anodd dros sypwelltydd, neu ar gefn ceffyl heb lwybr troed penodol – ar wahân i ambell drac defaid.  Roedd rhaid cymryd darlleniadau unwaith y mis, ar ddiwrnod cyntaf bob mis neu gyn agosed â phosib, ym mhob tywydd.  Roedd rhaid darllen cyfanswm o saith glawfesurydd yn ddyddiol: mae cofnodion yn dangos bod tenantiaid ym 1976 yn cael eu talu £15 y flwyddyn am ddarlleniadau dyddiol.

Roedd y glawfesurydd yn cynnwys silindr metel wedi’i gladdu’n ddwfn yn y ddaear, lle casglwyd y dŵr cyn ei arllwys i mewn i wydr mesur; gweler y poster isod.

Y mathau o lawfesuryddion oedd:  B=Bradford, S=Snowdon ac O=Octapent.

Examples of Rain Gauges

Fe wnaed y darlleniadau gan denant y fferm, neu staff yr ystâd, asiant neu arolygwr.  Anfonwyd y darlleniadau yn wreiddiol at Adran Ddŵr Dinas Birmingham.

Rhoddwyd taliad bach i’r cofnodwyr:  mae cofnodion yn dangos ym 1965, rhoddwyd taliad hyd at £3 y flwyddyn, ac ym 1975, cymaint â £10 y flwyddyn.

Bob yn ail flwyddyn, roedd swyddog o Adran Ddŵr Dinas Birmingham yn archwilio’r glawfesuryddion am unrhyw gollyngiadau, gwirio bod tyfiant gwair neu frwyn o fewn y compwnd yn cael ei dorri, ac yn archwilio ffin tir y glawfesuryddion am bolion ffens pwdr neu wedi’u difrodi, a fyddai’n cael eu hailosod gan staff y Bwrdd Dŵr.  Ar o leiaf un achlysur, dywedwyd bod rhaid i’r swyddog droi am yn ôl, gan nad oedd wedi gallu dod o hyd i’r glawfesurydd oherwydd niwl ar y bryniau, rhywbeth mae tenantiaid y ffermydd yn profi’n aml, ac sy’n gallu rhwystro casglu’r defaid ar y diwrnod hel defaid.

Darllenwyr yr 15 glawfesurydd yn Nyffryn Claerwen oedd:

G Edwards, Llannerch y Cawr – Esgair Ceiliog

T C Edwards, Cerrigcwplau – Arban, Esgair Garthen, Nant y Car, Cors yr Hwch a Llyn Carw

I A Davies, Chapel House – Bwlch yr Hendre, Claerddu, Claerwen x 2, Cerrigllwydion, a Brynhir

Staff Asiant yr Ystâd – Esgair Gader

Staff yr Arolygwr – Tyrmynydd (darllenwyd yn ddyddiol) a Chiloerwynt (darllenwyd yn ddyddiol)

Darllenwyr yr 15 glawfesur yng Nghwm Elan oedd:

J Davies, Hirnant – Gwngu, Aberhenllan, Calettwr ac Abercaethon

Miss M Evans, Abergwngu – Abergwngu (darllenwyd yn ddyddiol)

W Pugh, Bodtalog – Glan-Fedwen a Bodtalog (darllenwyd yn ddyddiol)

E D Evans, Rhif 9 Pentre Elan – Tynllidiart

Staff yr Arolygwr – Tyn-y-Pant, Tynant (darllenwyd yn ddyddiol), Pentref Elan (darllenwyd yn ddyddiol), Nantgwyllt (darllenwyd yn ddyddiol)

E B Rees, Penygarreg – Penygarreg 1, Penygarreg 2

Staff Asiant yr Ystâd – Rhaeadr

Gwnaethpwyd adolygiad o rwydwaith y glawfesuryddion ym mis Rhagfyr 1983, gan gynrychiolwyr o’r Swyddfa Dywydd ac Awdurdodau Dŵr gan leihau nifer y glawfesuryddion o 24 i 7.

Ar ddiwedd yr 80au a dechrau’r 90au, unig ddarllenwyr y glawfesuryddion oedd:  Bonny Rees o Benygarreg, fi, Tudor Davies o Chapel House, a orffenodd y darlleniadau ar ddiwedd 1992, a’r dyn olaf i wneud y darlleniadau oedd Mr David Williams, Abergwngu, a wnaeth ymddeol ym 1995/96.

Credaf fod pedair orsaf fonitro amgylcheddol byw, fel yr adwaenir nhw bellach, yn cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn yr ardaloedd hyn:

Pentref Elan

Nantgwyllt

Tynant, Troedrhiwdrain

Rain Gauges, Elan Village

Fel mae amser wedi newid!  Heddiw, dim ond ychydig o lawfesuron sy’n bodoli yn y dalgylch dŵr.  Nid oes rhaid i’r darllenwyr ddringo dros gamfa i mewn i’r tir caeedig bellach; mae clwyd fach wedi’i gosod yno, a’r cyfan yn hygyrch – nid oes rhai anghysbell bellach gan na fyddai Iechyd a Diogelwch yn caniatáu unrhyw un i gerdded am filltiroed mewn ardal heb signal symudol.

Tudor Davies